Beach House yw'r bwyty sydd newydd agor ym Mae Oxwich ac mae'r fwydlen yn cynnwys cynnyrch arfordirol a lleol bendigedig.
01792 278277
https://beachhouseoxwich.co.uk/
Partner Swyddogol
Beach House, Oxwich Bay
Mae Beach House ar y tywod, dafliad carreg o’r dŵr, yn teimlo fel pe bai wedi ei olchi i’r lan a’i dreulio gan y tywydd. Mae naws Beach House, sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn ym Mhenrhyn Gŵyr yn adlewyrchu ei gynefin naturiol, o’r waliau cerrig garw, i’r bwyd ar y plât. Does dim yn cael ei gymryd yn ganiataol ac mae popeth yn cael ei ystyried yn ofalus.
Mae’r cynnyrch lleol mwyaf ffres, boed wedi ei fagu, ei ddal, ei gasglu neu ei dyfu, yn cael ei weini trwy bob tymor, ac mae bwyta yn Beach House yn brofiad chwaethus wrth i chi edrych dros fae eiconig Oxwich.
Meddai Hywel Griffith, y Prif Ben-cogydd,
‘Rydym wedi cael haf gwych ac mae wedi bod yn bleser gwirioneddol gwneud cynifer o ffrindiau newydd ym mro Gŵyr. Roeddem am gynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i'n gwesteion dros yr hydref a'r gaeaf, felly rydym yn falch o fod wedi gallu trefnu'r gyfres hon o nosweithiau arbennig. Maent yn ffordd wych i'n gwesteion brofi arddulliau coginio gwahanol gan ben-cogyddion blaenllaw y DU heb orfod teithio ar draws y wlad i wneud hynny."
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
12:00 pm - 2:00 pm
6:30 pm - 8:15 pm
Cyswllt
Beach House restaurant at Oxwich Beach, Gower, Swansea
SA3 1LS
Gwobrau
Food Hygiene Rating 5
Swansea Bay Tourism Award Winner 2017
AAA Rosette Award for Culinary Excellence
Michelin Star
Bwyd
Hygyrchedd