Abertawe Wledig

Mae mwy i Fae Abertawe na’r ddinas, y Mwmbwls a Gŵyr. Mae’r hwyl yn parhau!

Mae digon o swyn yn llonyddwch cefn gwlad Abertawe wledig. Mae Mawr a Dyffryn Lliw ymysg y ffefrynnau. Mae Mawr yn un o’r cymunedau hynaf yng Nghymru ac mae’n cynnig ardaloedd diddorol iawn i’w harchwilio.

Bydd llawer o deithiau cerdded tawel yn eich croesawu, p’un ai’n daith gerdded fer neu’n daith gerdded hwy o amgylch Cronfa Ddŵr Lliw – lle gallwch hefyd roi cynnig ar chwaraeon dŵr!  Gallwch werthfawrogi byd natur a chwilio am adar a bywyd gwyllt gwych hefyd. Ewch i Goed Cwm Penllergaer i ganfod y rhaeadr – ond pwyllwch – efallai na fyddwch am adael. Dyluniwyd y tirluniau yn y coetir hwn ddechrau’r 19eg ganrif gan berchennog tir lleol ac maen nhw’n cael eu hadfer i’w gogoniant blaenorol ar hyn o bryd.

Os ydych yn barod am her, gwisgwch eich esgidiau cerdded a dringo i Benlle’r Castell. Dyma’r pwynt uchaf yn Abertawe, mae’n dipyn o olygfa. O’r man hwn, gallwch ddechrau cerdded Ffordd Gŵyr, llwybr cerdded 35 milltir ar draws y penrhyn o’r dwyrain i’r gorllewin.

Os nad ydych chi’n hoffi cerdded, cyfnewidiwch eich esgidiau cerdded am olwynion a dilynwch y Llwybrau Beicio Cenedlaethol trwy’r ardal – dyna ffordd wych o archwilio! Ewch ar lwybr 43 Sustrans o'r ddinas i Barc Coed Gwilym, lle gallwch logi caiac a phadlo ar hyd Camlas Tawe. Mae Abertawe wledig yn bell o sŵn a phrysurdeb y ddinas, a dyna’r peth gwych amdani. Dihangwch i gefn gwlad os oes angen tawelwch arnoch chi.

Rhagor o wybodaeth am Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Blog

Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog! 

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Ysbrydoliaeth

Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych chi'n chwilio…

Gŵyr

Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…