Ar agor drwy gydol y flwyddyn gan gynnig amrywiaeth eang o anturiaethau cyffrous yn yr awyr agored ar benrhyn Gŵyr.
01792 851182
http://www.goweradventures.co.uk
Partner Swyddogol
Gower Adventures
Rydym ni ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnig amrywiaeth eang o anturiaethau cyffrous yn yr awyr agored ar benrhyn Gŵyr. Rydym ni'n cynnig rhaglen hyblyg i bobl sy'n ymweld â'r ardal, i'r sawl sy'n aros ac i drigolion lleol. Mae cyrsiau ar gael mewn pecynnau sy'n amrywio o 1 i 5 niwrnod, neu becynnau penwythnos. Mae ein tîm o staff profiadol a chymwys yn ymroddedig i gyflwyno anturiaethau heriol a bythgofiadwy.
Beth am ddod i benrhyn bendigedig Gŵyr? Dewch i brofi cyffro dringo clogwyni calchfaen trawiadol Bae'r Tri Chlogwyn! Ewch ar daith o amgylch arfordir y penrhyn, gan wybod eich bod mewn gofal arbenigwyr, ac edrychwch ar y morloi, y bywyd gwyllt arall a'r arfordir o safbwynt gwahanol! Rhowch gynnig ar gerdded y bryniau neu wersylla, neu beth am gorff-fyrddio ar draeth byd-enwog Rhosili? Gŵyr oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ac mae'n cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleoedd am gyffro a hwyl yn yr awyr agored.
Ymunwch â'n tîm o hyfforddwyr profiadol a gadewch iddynt eich tywys ar antur o atgofion bythgofiadwy. P'un a ydych am daith ddiwrnod neu aros am wythnos gyfan, gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion. Byddwn yn darparu hyfforddiant arbenigol ar sail un i un neu gallwn gynnig profiad grŵp.
Beth am benwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau? Am drefnu parti cyn priodas? Yn chwilio am syniadau ar gyfer parti plentyn? Oes angen syniadau gennych ar gyfer tocyn rhodd ar gyfer pen-blwydd neu achlysur arbennig? Byddwn yn rhoi tocyn rhodd i chi ar gyfer un o'r gweithgareddau anhygoel hyn. Neu beth am roi cynnig ar rywbeth newydd?
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Open all day and evenings.
Cyswllt
Gwobrau
Achrediadau
Adventure Activities Licensing Authority (AALA)
Institute for Outdoor Learning
Hygyrchedd