Gŵyr
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i hadwaenir bellach fel Tirwedd Genedlaethol Gŵyr – ardal o harddwch naturiol eithriadol, sef yr un gyntaf a enwyd yn y DU ym 1956.
Ymwelwch â Phenrhyn Gŵyr i weld amgylchedd cyfoethog ac amrywiol sy’n eich swyno (ac nid dweud hynny’n unig ydyn ni!) – o weunydd gwyllt a chlogwyni calchfaen i draethau tywodlyd, euraidd. Mae Gŵyr yn drysorfa ddaearegol â thirluniau hyfryd.
Mae sawl pleidlais wedi rhestru Bae Rhosili ymysg y deg traeth gorau ym Mhrydain ar sawl adeg, ac mae'n werth gwylio'r haul yn machlud yno! Mae golygfa eiconig Bae y Tri Chlogwyn yn rhoi cyfle i gerddwyr dynnu llun gwych ar Lwybr Arfordir Gŵyr. Mae comin Cefn Bryn yn gartref i siambr gladdu neolithig Maen Ceti (Carreg Arthur), ac mae'r cyffro'n parhau gyda Thwll Culver, adeiledd rhyfedd mewn clogwyn ger Porth Einon.
Mae rhai o’r tonnau gorau ym Mhrydain yno, ac mae Llangynydd wedi bod yn boblogaidd gyda syrffwyr ers degawdau. Gall y rhai sy’n hoff o adrenalin fynd i arfordiro – dringo’r clogwyni a neidio i’r tonnau islaw – nid rhywbeth i’r gwangalon! Sicrhewch fod gennych gwmni proffesiynol bob amser – mae nifer o ddarparwyr gweithgareddau a hoffai glywed gennych.
Ac os yw hynny'n swnio'n ormodol, gallwch fynd ar gwch a gwylio morloi a dolffiniaid yn y môr. Ewch i draethau syfrdanol Gŵyr i weld beth yw testun yr holl ffwdan.
Arfordir a chefn gwlad
Mae’r penrhyn 19 milltir o hyd yn dechrau yn y Mwmbwls ac yn ymestyn tua’r gorllewin. Mae’n enwog am ei forlin brydferth a’i draethau (o draeth helaeth Bae Rhossili i rai bychan a diarffordd, fel Pwll Du), ac mae’n un o hoff gyrchfannau cerddwyr a syrffwyr. Ar y tir, cewch goetir cysgodol a glaswelltiroedd tonnog; tafarnau gwledig a bwyd blasus.
Nid yw’n syndod bod cerdded ym Mhenrhyn Gŵyr mor boblogaidd – mae’n gartref i rai o’r rhannau mwyaf prydferth o Lwybr Arfordir Cymru (er ein bod ni’n rhagfarnllyd). Gwisgwch eich esgidiau glaw a byddwch yn barod am daith gerdded wefreiddiol ar hyd y glannau. Nid môr a thywod yw’r stori gyfan – byddwch yn dod ar draws coetiroedd toreithiog a golygfeydd cefn gwlad hyfryd ar hyd y ffordd. Hefyd, mae gennym arweiniad a map cerdded am ddim os oes gennych ddiddordeb. Edrychwch ar ein tudalen lawrlwytho am fwy o wybodaeth.
Rhowch gynnig ar rai o ddanteithion lleol, fel cocos Penclawdd o Foryd Llwchwr, cig oen morfeydd heli sy’n toddi yn eich ceg a’r bara lawr enwog (gwymon!).
Harddwch naturiol eithriadol
Mae Penrhyn Gŵyr yn cwmpasu 188 km sg. a chafodd ei ddewis fel AoHNE gyntaf y DU am ei forlin glasurol (Arfordir Treftadaeth yw llawer ohono) a’i amgylchedd naturiol eithriadol (mae 33% yn Warchodfa Natur Genedlaethol neu’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig).
Mae amgylchedd naturiol amrywiol y penrhyn yn enwog am ei rostir, ei laswelltir calchfaen, ei forfeydd dŵr croyw a heli, ei dwyni a’i goetiroedd derw. Mae ei ddaeareg gymysg wedi arwain at amrywiaeth eang o olygfeydd mewn tirwedd gymharol fach. Mae clogwyni calchfaen dramatig, â thraethau tywodlyd a glannau creigiog rhyngddyn nhw, yn amlwg ar hyd ei arfordir deheuol. Yn y gogledd, mae’r arfordir yn isel â morfeydd heli helaeth a systemau twyni.
Teithio’n ôl mewn amser
Mae o leiaf 1200 o safleoedd archaeolegol o gyfnodau a mathau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys ogofeydd, caerau’r Oes Haearn, cestyll canoloesol, eglwysi, goleudy a pharciau’r 19fed ganrif. Mae 73 o’r rhain o bwys cenedlaethol, gyda 124 yn adeiladau rhestredig.
Mae rhan orllewinol yr AoHNE wedi’i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru, am dystiolaeth gyfoethog olyniaeth hir o ddefnydd tir a deiliadaeth o’r cyfnodau cynhanesyddol i ddiwydiannol. Mae hyn yn cynnwys caerau’r Oes Haearn a system gaeau agored ganoloesol (a adwaenir fel y Vile, ger Rhosili).
Rhagor o wybodaeth am Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr
Traethau
Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd ar gael ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. Gydag 20 o draethau sy'n ymestyn ar hyd 30 milltir o'r morlin, mae'n rhaid i…
Cerdded
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe yn cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy.
Ysbrydoliaeth
Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych chi'n chwilio…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.
Blog
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog!
Abertawe
Mae Bae Abertawe'n ardal arfordirol brydferth yn ne Cymru, sy'n cynnwys dinas ar lan y…
Y Mwmbwls
Croeso i bentref clyd a chosmopolitanaidd y Mwmbwls. Dyma un o hoff fannau Dylan Thomas ac…
Abertawe Wledig
Felly, yn ôl pob sôn, mae mwy i Fae Abertawe na’r ddinas, y Mwmbwls a Gŵyr. Mae…