Y Mwmbwls

Croeso i bentref clyd a chosmopolitanaidd y Mwmbwls. Dyma un o hoff fannau Dylan Thomas ac mae’n gartref i hufen iâ anhygoel hefyd.

Mae’r Mwmbwls yn nodi dechrau arfordir Penrhyn Gŵyr. Mae’n ardal hyfryd o Abertawe a, phan ewch yno, mae’n amlwg pam!

Mae digon o bethau i’w gwneud yn y Mwmbwls. Maen nhw’n dweud eich bod chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, beth am ddysgu ychydig o bethau pan fyddwch chi’n ymweld? Amgylchynwch eich hunan yn hanes a thraddodiad yr ardal hon. Mae goleudy a adeiladwyd ym 1794 a Phier Fictoraidd. Mae Castell Ystumllwynarth hefyd yn werth ymweld ag ef, yn sefyll ar ben bryn gyda golygfeydd godidog dros y môr.

Os ydych am fynd i siopa, bydd y Mwmbwls yn berffaith. Mae llawer o siopau moethus, bwtigau annibynnol ac orielau diddorol, lle gallwch roi trît i chi’ch hunan wrth ymweld â’r Mwmbwls! Dillad gan ddylunwyr, crefftau llaw neu hyd yn oed dillad syrffio, bydd rhywbeth yma i bawb.

I brynu'r gofrodd berffaith o'ch gwyliau yn y Mwmbwls, ewch i The Lovespoon Gallery a Gower Gallery am bethau hardd ac unigryw, y mae llawer ohonynt wedi'u hysbrydoli gan forlin prydferth Gŵyr, gyda phaentiadau o olygfeydd eiconig fel Langland, y Tri Chlogwyn, Oxwich a Bae Rhosili.  

Ni fyddai’r un ymweliad â’r Mwmbwls yn gyflawn heb brofi rhai o fwydydd môr lleol yr ardal, yn syth o’r cwch pysgota, neu rai o’r bwydydd cartref gorau sydd ar gael – blasus iawn! 

Rhagor o wybodaeth am Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Blog

Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog! 

Ysbrydoliaeth

Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych chi'n chwilio…

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Gŵyr

Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…