Gwnewch Fae Abertawe yn lle hapus i chi
Croeso i Fae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr!
Mae Bae Abertawe yn ne Cymru'n gyrchfan arfordirol croesawgar ac amrywiol sy'n frwd dros ddiwylliant, creadigrwydd a chynaliadwyedd. Mae ardal Bae Abertawe'n cynnwys Gŵyr, y Mwmbwls, canol dinas Abertawe ac Abertawe wledig.
Dinas Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru, ac mae wedi datblygu i fod yn gyrchfan cyfoes sy'n ffynnu ac sy'n cynnig bywyd nos gwych, llawer o fwytai a chaffis, lleoliadau diwylliannol niferus a fydd yn eich ysbrydoli trwy gelf, theatr a hanes, a digon o atyniadau awyr agored i chi eu mwynhau.
Mae penrhyn Gŵyr a'r Mwmbwls yn berffaith ar gyfer creu atgofion melys ar lan y môr - o wyliau difyr i'r teulu a phenwythnosau rhamantus, i gerdded, chwaraeon dŵr a seibiannau gwych i bobl sy'n dwlu ar fwyd, gyda morlin a thraethau anghredadwy sy'n ymestyn dros filltiroedd. Rydym hefyd yn gartref i Dirwedd Genedlaethol Gŵyr - ardal o harddwch naturiol eithriadol, sef yr un gyntaf a enwyd yn y DU ym 1956.
Mae Abertawe wledig yn berffaith i'r rheini sy'n gobeithio cymryd seibiant o fywyd prysur y ddinas gyda digon o lynnoedd, parciau, llwybrau cerdded a mannau agored i bawb eu mwynhau.
O fywyd nos i ddigwyddiadau mawr ac o'r ddinas i'r môr, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i ffordd o sicrhau mai Bae Abertawe yw eich lle hapus!
Archwilio'r ddinas o'r môr
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!
Cerdded
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe yn cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy.
Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd bod gennym ddigonedd o lety sy'n addas i gŵn.
Bywyd Nos
Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n…
Pethau i'w Gwneud
Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!
Digwyddiadau na ddylech eu colli
- Nov 15, 2024 - Jan 4, 2025
Garddwest / Ffair
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Profiad gaeaf hudol Abertawe, mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn ôl ar gyfer…
- Nov 17, 2024
Digwyddiad Cyfranogol
Gorymdaith y Nadolig Abertawe a Chynnau Goleuadau'r Nadolig
Bydd bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau ffilmiau’r Nadolig, offer…
- Nov 23, 2024 - Dec 22, 2024
Digwyddiad Tymhorol
Marchnad Nadolig Abertawe
Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd…
- Glynn Vivian Art Gallery
- Nov 6, 2024 - Jan 5, 2025
Arddangosfa
Skin Phillips, 360°
Ymgollwch mewn diwylliant sglefrfyrddio rhyngwladol yn Oriel Gelf Glynn Vivian ar…
Digwyddiadau yn Abertawe
Cymerwch gip ar ein rhestrau i ddod o hyd i'r holl ddigwyddiadau gwych sy'n digwydd yn Abertawe
Darganfyddwch Fae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Atyniadau
Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…
Gweithgareddau
Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael. Gallwch archwilio’r arfordir a chefn gwlad ar droed, ar gefn beic neu drwy farchogaeth, ac mae pob math o chwaraeon dŵr ar gael!
Cerddoriaeth Fyw
O dafarnau clyd i fariau prysur, mae bandiau, cantorion a pherfformwyr lleol talentog yn cyfoethogi bywyd nos Abertawe. P'un a ydych yn hoff o roc, jazz, cerddoriaeth annibynnol neu acwstig, dewch o hyd i leoliad sy'n…
Blog
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog!