MAE'R NADOLIG (bron) WEDI CYRRAEDD!!!
Wrth i'r tywydd oer barhau, daw Abertawe'n fyw gyda chyffro'r tymor! Bydd llu o ddigwyddiadau ledled y ddinas yn ystod y mis i wneud eich gwyliau hyd yn oed yn fwy arbennig.
P'un a ydych chi am fwynhau perfformiad hudolus, siopa am anrhegion unigryw, neu greu atgofion arbennig gydag anwyliaid, bydd rhywbeth at ddant pawb y mis hwn.
Achubwch ar y cyfle i gael profiad bythgofiadwy a mwynhau holl hwyl yr ŵyl yn ystod mis Rhagfyr.
Rhodd Nadolig Abertawe
Paratowch i ddathlu'r cyfnod cyn y Nadolig! Ymunwch â'n cystadleuaeth 31 diwrnod y Nadolig, gyda gwobr wych i'w hennill bob dydd ym mis Rhagfyr. Caiff y gwobrau cyffrous eu cyhoeddi ar ein cyfryngau cymdeithasol. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud am gyfle i ennill yw hoffi’r post hwn a gadael sylw arno. Mae rhai o’r gwobrau’n cynnwys nwyddau gan The Georgian Hotel, Plantasia, Clyne Farm, Wagamama, Clwb Pêldroed Dinas Abertawe, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Pizza Boys a llawer mwy. Gyda gwobr newydd yn cael ei datgelu bob dydd, bydd gennych 31 cyfle cyffrous i ennill y Nadolig hwn.
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Ar agor tan 4 Ionawr ar Lawnt yr Amgueddfa
Ydych chi'n chwilio am bethau Nadoligaidd i'w gwneud y gaeaf hwn? Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn cynnig rhywbeth at ddant pawb – dyma'r cyrchfan gorau ar gyfer adloniant i'r teulu dros y Nadolig! Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael profiad cyflawn o’r Nadolig yn Abertawe drwy wisgo eich esgidiau sglefrio a mentro i lyn iâ Gwledd y Gaeaf ar y Glannau.
Ewch ar y jet iâ os ydych chi'n chwilio am gyffro. Mae'r unig reid jet iâ yn Ewrop yn cynnig profiad unigryw a chyffrous. Mae’n cynnig llawer o hwyl ac yn gallu cyrraedd cyflymder o fwy na 50mya. Nid dyma ddiwedd y cyffro, gan fod y jet iâ'n brofiad clyweledol llawn. Yn gartref i dros 5,000 o oleuadau, gan gynnwys goleuadau neon, laserau, llusernau, a goleuadau tiwb, yn ogystal â 10 pêl ddisgo, mae'r effeithiau gweledol yn syfrdanol.
Mwynhewch y goleuadau a thynnwch hunlun cofiadwy o'r teulu yn ein llwybr llusernau ar thema Nadolig Hudolus, sy'n newydd ar gyfer 2024.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y Nadolig
Mae'r tywydd yn oeri ac mae mis Rhagfyr yn prysur agosáu, felly mae llawer o bobl yn dechrau meddwl am y Nadolig.
Bydd llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous dros y Nadolig yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dewch i gwrdd â Siôn Corn am amser stori arbennig, mwynhau te Nadoligaidd yn y prynhawn, archwilio marchnadoedd crefftau neu gymryd rhan mewn gweithdai corachod.
Hefyd, byddwch yn dod o hyd i gynigion tymhorol ac anrhegion a basgedi bwyd Cymreig hyfryd yn siopau a chaffis yr amgueddfa. Mae modd cadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai digwyddiadau a gweithgareddau, felly archebwch eich tocynnau heddiw
Marchnad Nadolig Abertawe
Dewch draw i weld y stondinau hardd, ymlacio yn y Bar Bafaraidd, mwynhau danteithion Nadoligaidd blasus, gwylio perfformiadau byw penigamp yng Nghaban y Carolwr, a chreu atgofion hudol gyda'ch gilydd
Mae'r digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys Uchelwydd a Marchnadoedd 2024 Byddwch yn barod am ddiwrnod o hwyl yr ŵyl wrth i Farchnad Abertawe a Marchnad Nadolig Abertawe ddod at ei gilydd ar gyfer dathliad hudol yng Ngardd y Farchnad a Chaban y Carolwr!
Peidiwch â cholli'r digwyddiad AM DDIM hwn! Perfformiadau o safon gan The Spinettes, sydd wedi serennu yn y West End. Band mawr Hot Gin Swing yn canu caneuon Nadoligaidd poblogaidd. Lledrith a thryblith gyda Kelly a Debbie. Caneuon Nadoligaidd gyda Village Voices a Choirs for Good, Paentio wynebau ac addurno cwcis AM DDIM i blant!
Dewch â'r teulu cyfan a mwynhewch hwyl yr ŵyl!
Canolfan Celfyddydau Taliesin dros y Nadolig
Ydych chi am ymgolli yn hwyl yr ŵyl neu ddarganfod ffyrdd o ddifyrru'r plant? Gall Canolfan Celfyddydau Taliesin ddiwallu eich anghenion! Dewch i fwynhau ffefrynnau Nadoligaidd traddodiadol fel perfformiad cyfareddol y Bale a'r Opera Brenhinol o The Nutcracker, neu'r ffilm Nadoligaidd boblogaidd Elf ar y sgrîn fawr.
Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe'n cynnig rhaglen fywiog llawn digwyddiadau i bobl o bob oedran a diddordeb. P'un a ydych yn chwilio am fale hudolus, ffilm galonogol, theatr fyw gyfareddol, neu antur ryngweithiol i'r plant, mae gan Ganolfan Celfyddydau Taliesin rywbeth at ddant pawb dros y Nadolig.
Peidiwch â cholli'r digwyddiadau gwych hyn sy'n siŵr o ddod â llawenydd a chyffro i'ch dathliadau. Archebwch eich tocynnau nawr a mwynhewch Nadolig gwirioneddol arbennig llawn profiadau bythgofiadwy yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin!
Gwasanaeth bysus am ddim
Mae'r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn dychwelyd bob penwythnos yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yna am 5 niwrnod ar ôl y Nadolig. Gan ddechrau ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, bydd y cynnig am ddim diweddaraf ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig a bydd yn parhau am 5 niwrnod ychwanegol rhwng 27 a 31 Rhagfyr. Bydd y cynnig bysus am ddim yn parhau tan 9.00pm nos Sul 17 Tachwedd i bobl sy'n mynd i'r orymdaith.
Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7pm.
Darganfod mwy
Gallwch enwebu nawr ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe
Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024 mewn cydweithrediad â Freedom Leisure! Mae'r gwobrau yn eu 25ain flwyddyn bellach a dyma eich cyfle i gydnabod a dathlu cyflawniadau rhagorol ein hathletwyr, ein hyfforddwyr, ein timau a'n gwirfoddolwyr lleol.
Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi cael effaith sylweddol ar chwaraeon yn y ddinas eleni? Gallwch dynnu sylw at ei waith caled a'i ymroddiad drwy ei enwebu.
Daw'r cyfnod enwebu i ben ar 31 Rhagfyr 2024, felly achubwch ar y cyfle hwn i ddathlu'r rhai hynny sy'n ysbrydoli ac yn cynrychioli Abertawe drwy chwaraeon.