Wrth i gyfnod Calan Gaeaf ddod i ben, mae hwyl yr ŵyl rownd y gornel!

Dyma’r amser perffaith i ddechrau ar eich siopa Nadolig mewn marchnad Nadolig, neu beth am fynd i wylio Gorymdaith y Nadolig Abertawe

 

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe – Nos Maw 5 Tachwedd, St Helen

Mwynhewch noson wych yn Arddangosfa Tân Gwyllt Abertawe ar 5 Tachwedd 2024 yn San Helen. Bydd y digwyddiad Sioeau Cerdd gyda'r Hwyr yn cynnwys eich hoff ganeuon o'r West End ac arddangosfa tân gwyllt ardderchog.

Bydd y gatiau’n agor am 5pm a bydd yr adloniant cyn y sioe’n dechrau am 5.30pm. Bydd y brif arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm.

Darganfyddwch bopeth y mae angen i chi ei wybod cyn y digwyddiad, gan gynnwys cau ffyrdd, cwestiynau cyffredin a mwy yn ein gwefan yn

Crowds watching fireworks at st helens ground in Swansea

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024 mewn cydweithrediad â Freedom Leisure. Bydd y digwyddiad ar 2 Ebrill 2025 yn Neuadd Brangwyn i nodi 25 mlynedd ers y digwyddiad cyntaf yn cydnabod cyflawniadau athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a thimau yn Abertawe.

Sports Awards 2024

 

Abertawe’n Cofio – Dydd Llun 11 Tachwedd o 10:30am, St David’s Place

Ar yr unfed awr ar ddeg o’r unfed diwrnod ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg, ni â’u cofiwn hwy.

Ar y diwrnod hwn, mae pobl ledled y wlad yn oedi i fyfyrio ar yr ebyrth a wnaed gan ddynion a menywod dewr ein lluoedd arfog.

Eleni beth am ymuno â ni yn St Davids Place (ger hen siop Iceland) rhwng 10.30am a 12 ganol dydd lle bydd Abertawe yn coffáu Dydd y Cadoediad.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10.50am gyda’r distawrwydd am 11am, a Mal Pope fydd y cyflwynydd;

A poppy flower

 

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau – 15 Tachwedd 2024 – 4 Ionawr 2024, Lawnt yr Amgueddfa

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn agor 15 Tachwedd 2024 – 4 Ionawr 2025! Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl 2024 gyda hoff atyniadau pawb - llawr sglefrio iâ dan do, Bar Alpaidd a Funfair ac Olwyn Fawr!

 

Gorymdaith y Nadolig Abertawe – Nos Sul 17 Tachwedd o 5pm, Canol y Ddinas

Bydd bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau ffilmiau’r Nadolig, offer chwyddadwy Nadoligaidd a Siôn Corn a’i sled yn ymddangos yng Ngorymdaith y Nadolig Abertawe eleni. Bydd goleuadau disglair, peiriannau eira a thân gwyllt, felly os nad oeddech yn teimlo hwyl yr ŵyl cyn i’r orymdaith ddechrau, byddwch yn siŵr o’i deimlo erbyn y diwedd!

Father Christmas on a lit up sleigh at the Swansea Christmas Parade

 

Marchnad Nadolig Abertawe – Dydd Sadwrn 23 Tachwedd – Dydd Sul 22 Rhagfyr, Canol y Ddinas

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe o 23 Tachwedd i 22 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i’ch temtio ac addurniadau hardd.

Christmas Market