Gwybodaeth i Wylwyr Ironman 70.3 Abertawe
Ydych chi’n dod lawr i gefnogi ffrindiau, teulu a chystadleuwyr ar gyfer digwyddiad Ironman 70.3 cyntaf Abertawe? Os ydych chi’n chwilio am y lleoedd gorau i wylio’r holl gyffro, cymerwch gip ar ein harweiniad isod!
Y Cyrsiau
Nofio
Mae’r nofiad 1.2 milltir yn dechrau yn Noc Tywysog Cymru ac yn troi’n ôl ar ei hun cyn i’r athletwyr nofio o gwmpas y tu allan a’r allanfa lle dechreuasant y ras. Bydd cefnogwyr yn gallu sefyll ar ochr y lan ar hyd mwyafrif y cwrs nofio i gefnogi’r athletwyr.
Beicio
Mae cwrs beicio IRONMAN 70.3 Abertawe yn cychwyn o faes parcio East Burrows, bydd yn teithio ar hyd Cambrian Place ac ymlaen i’r A4067. Bydd y ffordd hon yn mynd ag athletwyr ar hyd cromlin Bae Abertawe, heibio traeth y Mwmbwls a’r pier, cyn i athletwyr droi i’r dde i feicio tuag at benrhyn Gŵyr. Mae’r llwybr llawn golygfeydd yn troi a throelli drwy ffyrdd gwledig a phentrefi tlws, gan basio mannau poblogaidd i wylwyr a thair gorsaf gymorth ar filltiroedd 18, 31 a 51 ar ei ffordd. Mae’r llwybr yn dilyn y B4436 yn ôl tua’r A4067 ar hyd y bae ac yn ôl am ganol y ddinas i faes parcio East Burrows at yr ardal drawsnewid.
Rhedeg
O’r ardal drawsnewid, bydd y ras redeg yn un syml, lle bydd y rhedwyr yn rhedeg ar hyd bae hyfryd Abertawe ddwywaith.
Bydd yr athletwyr yn pasio dau fan poblogaidd i wylwyr, Pentref TriClub, y tair gorsaf gymorth a gorsaf Red Bull cyn rhedeg lap arall o’r bae. Yr unig newid ar yr ail lap yw y bydd athletwyr yn parhau ar hyd Oystermouth Road ac i mewn i Erddi’r Amgueddfa, lle byddant yn rhedeg i lawr y carped coch ac yn cwblhau IRONMAN 70.3 Abertawe.
Mannau poblogaidd i wylwyr – Ironman
Tafarn The Woodman, Y Mwmbwls
Os ydych am aros mor agos at ganol y ddinas â phosib ond hefyd am weld yr holl gyffro, mae’r dafarn hon yn lle gwych i chi gefnogi’r athletwyr wrth iddynt gychwyn ar y cwrs beicio, a gallwch eu croesawu wrth iddynt ddychwelyd i’r ddinas hefyd.
Gallwch barcio ar gyfer tafarn The Woodman yn Sketty Lane, 20 munud i ffwrdd ar droed (gan ddilyn y cwrs beicio a rhedeg).
Siop Goffi’r Tri Chlogwyn, Southgate
Mae’r siop goffi glyd hon ar ran o’r cwrs beicio lle bydd y cystadleuwyr yn eich pasio ar y ffordd allan ac ar y ffordd yn ôl (milltiroedd 12 i 13) ac mae’n lle gwych i wylio’ch athletwyr yn pasio ddwywaith yn olynol yn gyflym.
Bydd y trefniadau cau ffyrdd yn effeithio ar fynediad i Siop Goffi’r Tri Chlogwyn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yno’n gynnar cyn i’r ffyrdd gau.
Reynoldston
Mae pentref Reynoldston yng nghanol Gŵyr ac mae’n darparu golygfeydd gwych o’r cwrs beicio. Bydd yr athletwyr yn pasio’r pentref ddwywaith. Ni fydd y trefniadau cau ffyrdd yn effeithio ar y pentref, felly mae’n lle gwych i wylio’r athletwyr yn beicio heibio cyn i chi droi yn ôl am Abertawe i’w gwylio unwaith eto ar gyfer y ras redeg.
Gellir cael mynediad i Reynoldston drwy North Gower Road, drwy Lanrhidian ac Oldwalls – a gellir cael mynediad i mewn ac allan drwy’r dydd.
Siop fferm Eastern, Oldwalls
Mae siop fferm Eastern yn Oldwalls wedi bod yn cefnogi Ironman 70.3 Abertawe ers i’r ras gael ei chyhoeddi. Nid yw’r cwrs yn mynd heibio’r lleoliad hwn yn uniongyrchol eleni, fodd bynnag, mae’r siop 15 munud ar droed o’r cwrs ac mae’n lle gwych i gael coffi tra byddwch chi’n aros am eich athletwr.
Nid yw’r trefniadau cau ffyrdd yn effeithio ar y lleoliad hwn a byddwch yn gallu cael mynediad iddo ar hyd y B4295. Sylwer y gallai’r daith fod yn brysurach nag arfer gan mai’r B4295 yw’r unig ffordd fynediad i benrhyn Gŵyr ar ddiwrnod y ras.
Shepherds of Gower/Canolfan Treftadaeth Gŵyr
Mae’r ddau fusnes hyn ar y cwrs beicio ac maent yn lleoedd gwych i wylio’ch athletwyr yn pasio ddwywaith. Prynwch goffi ac ewch i grwydro o amgylch y ganolfan dreftadaeth wrth aros am eich athletwyr.
Bydd mynediad i’r ardal hon yn gyfyngedig oherwydd y trefniadau cau ffyrdd felly sicrhewch eich bod yn cyrraedd yn gynnar cyn i’r ffyrdd gael eu cau.
The Secret Beach Bar and Kitchen
Mae’r bar hamddenol hwn ar lan y môr sy’n edrych dros y bae yn lle gwych i wylwyr ymlacio a chefnogi eu hathletwyr ddwywaith ar y cwrs beicio a phedair gwaith ar gyfer y ras redeg.
Bydd Oystermouth Road ar gau yn ystod y ras felly bydd yn rhaid i chi gerdded o ganol y ddinas er mwyn cyrraedd The Secret Beach Bar and Kitchen. Bydd yn cymryd tua 30 munud i gerdded yno.
Lido Blackpill/Clwb Treiathlon
Mae Lido Blackpill ar y cwrs rhedeg ac mae’n lleoliad gwych i fwynhau adloniant i’r teulu a chwmnïaeth y Clwb Treiathlon. Yma gallwch gefnogi’ch athletwyr ar lap cyntaf ac ail lap y cwrs rhedeg.
Mae mynediad i Lido Blackpill yn debyg i’r mynediad i dafarn The Woodman felly gallech symud o un lleoliad i’r llall er mwyn gweld eich athletwr ar y cwrs beicio a’r cwrs rhedeg.
Ironman 70.3 Abertawe
Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd godidog gyda’r dociau SA1 hanesyddol, penrhyn Gŵyr, bryniau tonnog gwyrdd, porfeydd ac amaethyddiaeth gyfoethog Abertawe wledig.