Taith Fer y Mwmbwls
Antur Fach yn y Mwmbwls
- Ymwelwch phentref cartrefol ond cosmopolitaidd y Mwmbwls. Yn llawn cymeriad lleol a swyn, mae’r Mwmbwls yn gartref i grefftau a wnaed â llaw, bwtigau moethus a hufen iâ gorau’r byd, yn ôl y sôn. Peidiwch â cholli Lovespoon Gallery (yr arbenigwyr gwreiddiol sy’n cynnig y casgliad mwyaf o ddyluniadau llwyau caru gan y cerfwyr llwyau caru gorau yng Nghymru) na Gower Gallery, sy’n cynnwys detholiad bythol newidiol o baentiadau, cerameg, cerfluniau ac argraffiadau cyfyngedig o brintiau Giclee. Mae llawer o’r gwaith wedi’i ysbrydoli gan arfordir hardd Gŵyr, gyda phaentiadau o olygfeydd eiconig megis Bae Langland, Bae’r Tri Chlogwyn, Bae Caswell, Bae Oxwich a Bae Rhosili.
- Ewch draw i Verdi’s am ginio, teisen neu hufen iâ! Mae Verdi’s yn gaffi, yn barlwr hufen iâ ac yn fwyty trwyddedig teuluol yn y Mwmbwls a chanddo enw da am flas ac ansawdd Eidalaidd gwirioneddol. Wedi’i leoli ar lan y môr, mae Verdi’s yn edrych dros fae hardd Abertawe.
- Ewch am dro hamddenol ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr o Fae Langland i Fae Caswell ac yn ôl.
- Mwynhewch eich pryd gyda’r hwyr yn Bistrot Pierre. Mae gan y bwyty deulawr hwn, sydd wedi’i agor yn ddiweddar, ffenestri llawr-i-nenfwd trawiadol, ystafelloedd mewnol hyfryd Ffrengig eu naws, ardal far a seddi y tu allan.
- Mwynhewch arhosiad dros nos yng Tides Reach Guesthouse
- Ewch i Gastell Ystumllwynarth. Lleolir Castell Ystumllwynarth ar ben bryn yn y Mwmbwls gan gynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe, celf graffiti hynafol o’r 14eg ganrif a drysfa ganoloesol o gromgelloedd dwfn a grisiau cudd.
Cymerwch gip ar ein teithiau byr eraill
Teithiau Byr Diwylliannol Abertawe
Antur Ddiwylliannol yn Abertawe
Taith Fer Oxwich
Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!
Taith Fer Abertawe Wledig
Darganfyddwch Abertawe Wledig yn ystod Seibiant Byr
Antur Tri Diwrnod Hwyl Bae Abertawe
Antur Tri Diwrnod ym Mae Abertawe.
Taith Fer y Tri Chlogwyn
Antur Ddringo ym Mae’r Tri Chlogwyn