Abertawe

Gallwch ddod o hyd i siopau, sinemâu, theatrau, arena fodern a chastell hen iawn yma! Rhaid mynd i leoliad arobryn Marchnad Abertawe, lle gallwch brynu danteithion lleol ffres, gan gynnwys cocos, bara lawr a phice ar y maen a'u mwynhau yng ngardd dan do'r farchnad.  

Os ydych yn chwilio am weithgareddau at bob tywydd, ewch draw i Gyfadeilad Hamdden yr LC gyda’i barc dŵr, lle chwarae meddal, waliau dringo a chanolfan ffitrwydd. Mae canol y ddinas yn gartref i atyniadau diwylliannol gwych, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, sw trofannol Plantasia, arddangosfa Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a llawer mwy, a hyd yn oed gwyrddni eang Parc Singleton. 

Mae Abertawe’n lle da i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd hefyd. Mae bwyd at ddant pawb gydag amrywiaeth o frandiau enwog, bwytai annibynnol a bistros bwtîg. Mae'r Stryd Fawr yn gartref i fyd creadigol sy'n ffynnu ac mae Wind Street yn boblogaidd ymhlith gloddestwyr gyda'r hwyr. Mae gan ganol y ddinas statws y Faner Borffor; gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma.  

Rhagor o wybodaeth am Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf, cofiwch…

Gweithgareddau

Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael. Gallwch archwilio’r arfordir a chefn gwlad ar droed, ar gefn beic neu drwy farchogaeth, ac mae pob math o chwaraeon dŵr ar gael!

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Ysbrydoliaeth

Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych chi'n chwilio…

Y Mwmbwls

Croeso i bentref clyd a chosmopolitanaidd y Mwmbwls. Dyma un o hoff fannau Dylan Thomas ac…

Gŵyr

Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…