Gorymdaith y Nadolig Abertawe Parcio a Theithio

Parcio a Theithio

Paratowch i weld bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau o ffilmiau Nadoligaidd, offer chwyddadwy ar thema’r ŵyl ac wrth gwrs, Siôn Corn a’i sled, wrth iddynt oll ymddangos yn nigwyddiad Gorymdaith a Chynnau Goleuadau’r Nadolig eleni yn Abertawe!

Bydd gorymdaith eleni’n dechrau tua 5.00pm a disgwylir iddi orffen tua 6.00pm ar Ffordd y Brenin.

Sylwer y disgwylir i ganol y ddinas fod yn brysur iawn yn ystod y prynhawn a thrwy gydol y digwyddiad – sicrhewch eich bod yn cynllunio’ch trefniadau teithio yn briodol ac yn caniatáu digon o amser i gyrraedd er mwyn gweld llwybr yr orymdaith!

Parcio

Mae gan ganol y ddinas nifer o feysydd parcio’r cyngor  – gallwch weld rhestr lawn o’ rhain, gan gynnwys eu lleoliadau a’u codau post, yn abertawe.gov.uk/meysyddparcio.

Swyler: Ni fydd maes parcio East Burrows ar gael ar ddiwrnod y digwyddiad. Gallwch barcio yn y meysydd parcio canlynol, ond cânt eu heffeithio gan y trefniadau cau ffyrdd ar gyfer y digwyddiad rhwng 4pm ac oddeutu 6.30pm;

  • Maes parcio Dwyrain Stryd y Parc SA1 3DJ
  • Maes Parcio Gorllewin Stryd y Parc SA1 3DF
  • Maes Parcio Stryd Pell SA1 3ES
  • Maes Parcio Stryd Rhydychen SA1 3AZ
  • Maes Parcio Maes Caerwrangon SA1 1HY
  • Maes Parcio Quadrant (SA1 3QR)
  • Maes Parcio Bae Copr Bay De (Arena) (SA1 3BX)
  • Maes Parcio Lôn Northampton (SA1 4EW)

Os ydych yn bwriadu parcio yng nghanol y ddinas ar gyfer yr orymdaith, byddwch yn ymwybodol y gall fod peth oedi wrth adael y meysydd parcio wrth i ni aros i’r orymdaith basio’n ddiogel. Diolch am eich amynedd.

Parcio a Theithio

Bydd safle parcio a theithio ar agor ar gyfer Gorymdaith y Nadolig: Fabian Way.

Bydd bysus yn gadael bob 15 munud o 2pm tan 5.15pm o safleoedd parcio a theithio Fabian Way. Ar ôl yr orymdaith, byddant yn rhedeg o 6pm. 

Sylwer y bydd traffig yn brysur yng nghanol y ddinas yn yr amser sy’n arwain at y digwyddiad – os ydych yn bwriadu defnyddio safleoedd parcio a theithio, caniatewch ddigon o amser i deithio o’r safle parcio a theithio i ganol y ddinas ei hun. 

Parcio a Theithio Ffordd Fabian 

  • Cost fesul cerbyd: £1 
  • Côd Post – SA1 8LD 
  • Ar agor rhwng 2pm ac 8pm 
  • Tocynnau ar gael o beiriant tocynnau parcio a theithio Ffordd Fabian 
  • Man gollwng a chodi – Gorsaf Fysus y Cwadrant 

Cau ffyrdd

Er mwyn cynnal yr orymdaith yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau ar noson y digwyddiad. Lle y bo’n bosib, cânt eu cau ar raglen dreigl. Bydd mynediad i wasanaethau brys ar bob adeg

Bydd llwybr dynodedig Gorymdaith y Nadolig fel a ganlyn;  Victoria Road, Princess Way, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, y Stryd Fawr, Orchard Street, Ffordd y Brenin. Felly, bydd y trefniadau cau ffyrdd, llwybrau dargyfeirio a chyfyngiadau parcio ar waith.

Cau ffyrdd

  • East Burrows Road a Somerset Place – 2.00pm – 8.00pm*
  • Belle Vue Way – 12.00pm -8.00pm*

Rhaglen Dreigl o Gau Ffyrdd

  • Ferry Side, Bath Lane, Adelaide Street, Victoria Road, Princess Way, Oystermouth Road, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, High Street, Alexandra Road, College Street, Orchard Street, Dyfatty Street, Mariner Street, Ebenezer Street, Tontine Street, The Kingsway, Dillwyn Street, Ivy Place, Christina Street, Wellington Street – 3.00pm - 8.00pm*

*Sylwer – brasamcan o amserau yw’r rhain


Cyfyngiadau Parcio

Gallwch deithio ar y bws am ddim gyda chynnig Nadoligaidd – wedi’u hymestyn tan 9pm ar gyfer yr orymdaith yn unig! Bysus Am Ddim Abertawe! Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein.

Er diogelwch, diogeledd ac i gynorthwyo symudiad traffig yn yr ardal, mae’n ofynnol i ni gadw rhai ffyrdd yn rhydd o gerbydau wedi’u parcio ac felly bydd cyfyngiadau parcio ar y ffyrdd hyn, a chaiff cerbydau sydd wedi parcio yno’u halio ymaith;

  • Adelaide Street, East Burrows Road, Somerset Place, Princess Way, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, y Stryd Fawr, Alexandra Road, College Street, Orchard Street, Ffordd y Brenin, Dillwyn Street, Wellington Street – 2pm – 8pm

 

Cyrraedd ar fws

I weld yr amserlenni bysus llawn, ewch i www.firstgroup.com/south-west-wales
www.adventuretravel.cymru/bus-services
www.southwalestransport.com/bus-routes-and-timetables
www.dansa.org.uk/route-timetables/ i gael help i drefnu’ch taith.

Sylwer: Ni fydd y safleoedd bws ar hyd llwybr yr orymdaith yn weithredol rhwng 4.00pm a 6.30pm, felly defnyddiwch Gorsaf Fysus y Cwadrant.


Rhannu Car

Os ydych yn teithio mewn car, rhannwch gar os oes modd. Bydd rhannu car yn eich helpu i arbed arian drwy rannu’r costau ac yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan helpu’r amgylchedd.