Cerdded ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Beth am roi her i chi’ch hun a cherdded Llwybr Arfordir Gŵyr yn ei gyfanrwydd? Does dim angen i chi wneud y cyfan ar unwaith – gwnewch rhan ar y tro i weld arfordir newidiol Penrhyn Gŵyr ar eich cyflymdra eich hun.

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.

Dewch i gerdded

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan…