Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd bod gennym ddigonedd o lety sy'n addas i gŵn.
Does dim byd cystal ag ymweld â'n harfordir syfrdanol, ein traethau a'n llwybrau cerdded. A gallwch ymlacio gan wybod bod gennym 15 o draethau sy'n croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn fel Bae Tor, Oxwich a Thwyni Whiteford, ac mae gennym restr gynhwysfawr o lwybrau a throeon sy'n addas i gŵn hefyd.
Ac nid dyna'r cyfan - ar ôl diwrnod hir o archwilio, byddwch chi (a'ch anifail anwes!) yn awyddus i ymlacio! Mae gan Fae Abertawe amrywiaeth eang o dafarnau, siopau coffi a bwytai addas i gŵn i chi ddewis ohonynt.
Ydych chi'n bwriadu aros yma am sbel? Peidiwch â phoeni, mae gennym amrywiaeth o ddarparwyr llety sy’n addas i gŵn hefyd, o dai llety i westai.
Gyda'n harweiniad i leoliadau ym Mae Abertawe sy'n addas i gŵn, gallwch wneud Bae Abertawe'n lle hapus i chi a'ch ci!
Pethau Addas i Gŵn
Mae Abertawe'n llawn pethau sy'n addas i gŵn, felly does dim rhaid i'ch anifail anwes golli allan ar yr hwyl!
Bwytai a Thafarnau Addas i Gŵn
Yn ffodus, mae gan Abertawe ddetholiad o fariau, tafarnau a chaffis sy'n addas i gŵn, felly gall eich ci adfer ei egni hefyd.